Mae ffiniau'r etholaeth yn ymestyn o draethau Pwllheli, i gob Porthmadog hyd at gastell Caernarfon. Mae'r etholaeth yn cwmpasu oddeutu 47 000 o etholwyr.
Mae un ar hugain o ganghennau Plaid Cymru yn yr etholaeth, yn ymgorffori oddeutu 1800 o aelodau.
Aelod Seneddol yr etholaeth yw Hywel Williams AS (PC).
Yr Aelod Cynulliad yw Alun Ffred Jones AC (PC).
Mae'r etholaeth yn rhanbarth Gogledd Cymru o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a Janet Ryder AC (PC) yw un o'r aelodau rhanbarthol.